Mae rhyw fyrdd o ryfeddodau, Iesu, yn dy farwol glwy’; trwy dy loes, dy gur a’th angau caed trysorau fwy na mwy: ni all cerwb byth na seraff lawn fynegi gwerth yr Iawn a roed drosom gan Gyfryngwr ar Galfaria un prynhawn. Pwy all fesur maint ei gariad, a rhinweddau maith ei ras? Nid angylion, er eu doniau, na holl seintiau daear las; môr di-drai, heb waelod iddo, sydd yn chwyddo byth i’r lan; nofia miloedd ynddo’n hyfryd draw ir bywyd yn y man. DANIEL JONES, 1788?-1848